Company

Welsh Government / Llywodraeth CymruSee more

addressAddressMerthyr Tydfil, Merthyr Tydfil
type Form of workPermanent
salary SalaryCompetitive
CategoryAdministrative

Job description

Welsh Government’s publicly owned renewable energy developer – Trydan Gwyrdd Cymru

Administrator/Executive Assistant – 37 hours per week

Closing date: Noon 28 January 2024

Reference: TGCAEA

About Us

The Welsh Government is establishing a publicly owned renewable energy developer – Trydan Gwyrdd Cymru. Its purpose is to put net zero and the communities of Wales at the heart of the transition required to address the huge challenge of climate change.  Trydan Gwyrdd Cymru will scale up the rollout of renewable energy projects across the Welsh public estate, principally through onshore wind and solar PV technologies.  We aim to have more than one gigawatt of locally owned, locally generated clean energy by 2040. We have a genuine opportunity to produce an income that will be reinvested in improving people’s lives in Wales as well as creating good quality, clean energy jobs. 

This new company should drive a new approach to delivering benefits from renewables that really make a difference to communities. The current cost of living crisis underlines the importance of energy in our society and involving people in developing different models of benefit sharing will be crucial to the company’s success.

The Role

As a newly created company, we are now seeking to expand our team by recruiting an experienced, self-starting senior administrator. The role will be responsible for organising and coordinating business meetings and managing the day-to-day schedules of the Chief Executive Officer and members of the Leadership Team. This is an excellent opportunity for someone who is looking for a new challenge to be part of something right from the start. 

If you feel you have solid admin skills, excellent communication and organisation skills, attention to detail, and you are used to working on your own initiative we would be very interested to hear from you. 

Location

The company will operate using a hybrid model where staff will spend a proportion of their time working from home.  Meetings and other joint activities will be hosted from time to time by Welsh Government at various office locations across Wales. The Company’s Head Office will operate out of Merthyr Tydfil. The role holder will need to be flexible as the job will require travel from time to time within the country.

A copy of the Job Description and Person Specification together with details on how to apply can be found in the candidate information pack. To access the Candidate Information Pack, click below.

In return, we offer a competitive salary depending on skills and experience, 28 days annual leave plus 8 public holidays, and a defined contribution pension scheme.

We are committed to creating an inclusive working environment for everyone. We especially encourage applications from all underrepresented groups. We do not discriminate on the basis of race, religion, colour, national origin, gender, sexual orientation, age, marital status or disability. We are happy to consider flexible working.

Datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd Llywodraeth Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru

Swydd wag: Gweinyddwr/Cynorthwyydd Gweithredol – 37 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 28 Ionawr 2024 am hanner dydd

Cyfeirnod: TGCAEA

Amadanom ni

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd – Trydan Gwyrdd Cymru. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu'r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystad gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.

Dylai'r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae'r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.

Y Rôl

Fel cwmni newydd ei greu, rydyn ni nawr yn ceisio ehangu ein tîm trwy recriwtio uwch weinyddwr profiadol sy’n llawn ysgogiad. Bydd y rôl yn gyfrifol am drefnu a chydlynu cyfarfodydd busnes a rheoli amserlenni dydd i ddydd y Prif Swyddog Gweithredol ac aelodau'r Tîm Arwain. Dyma gyfle gwych i rywun sy'n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o'r cychwyn cyntaf. 

Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi sgiliau gweinyddol cadarn, sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, eich bod yn rhywun sy’n rhoi sylw i fanylder, a'ch bod wedi arfer gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Lleoliad

Bydd y cwmni'n gweithredu gan ddefnyddio model hybrid lle bydd staff yn treulio cyfran o'u hamser yn gweithio gartref. Bydd cyfarfodydd a gweithgareddau ar y cyd eraill yn cael eu cynnal o bryd i'w gilydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled Cymru. Bydd Pencadlys y Cwmni ym Merthyr Tudful. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg oherwydd bydd angen teithio o bryd i'w gilydd o gwmpas y wlad.

Gellir dod o hyd i gopi o'r Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person ynghyd â manylion ar sut i wneud cais yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr. I gael mynediad i'r Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr, cliciwch ar y ddolen isod.

Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad, 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol neu anabledd. Rydyn ni’n hapus i ystyried gweithio hyblyg.

Refer code: 2464612. Welsh Government / Llywodraeth Cymru - The previous day - 2024-01-09 23:32

Welsh Government / Llywodraeth Cymru

Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil

Share jobs with friends