Cardiff Council and the Vale of Glamorgan Council are working together to provide an innovative new Adolescent Resource Centre (ARC) / Edge of Care Service for 11-17 year olds.
Taking a strength based approach, our aim is to work co-productively with families to improve relationships and enable young people to remain living within their family home.
The ARC has been delivering services to young people who require intensive interventions and access to therapeutic interventions across Cardiff for the last three years. As a result of this success, alongside an increase in need and regional funding, the Service is expanding to become a Regional Edge of Care Service, which will operate across two locations across Cardiff and Vale of Glamorgan.
Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn cyd-weithio i ddarparu Canolfan Adnoddau i Bobl Ifanc (CABI) / Gwasanaeth ar Ymylon Gofal newydd ag arloesol ar gyfer unigolion 11-17 oed.
Drwy weithio mewn dull sy’n seiliedig ar gryfderau, ein nod yw gweithio mewn modd cyd-gynhyrchiol gyda theuluoedd er mwyn gwella perthnasau a galluogi pobl ifanc i barhau i aros o fewn y cartref teuluol.
Dros y tair blynedd diwethaf mae’r CABI wedi darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sydd angen ymyrraeth ddwys a mynediad i ymyrraeth therapiwtig ar draws dinas Caerdydd. O ganlyniad i’r llwyddiant yma, ochr yn ochr â’r cynnydd mewn anghenion a chyllideb, mae’r gwasanaeth yn ehangu i ddod yn Wasanaeth Ymylon Gofal Rhanbarthol, fydd yn gweithredu ar draws dau leoliad o fewn Caerdydd a’r Fro.