Company

Vacancy FillerSee more

addressAddressCaerdydd a'r Fro, CF10 5FE
type Form of workFull time

Job description

Swydd Wag Fewnol / Allanol
Ref: 11576
Teitl y Swydd: Aseswr Adeiladu / Sicrwydd Ansawdd Mewnol
Contract: Amser llawn, parhaol
Cyflog: £32,283 - £34,433 per annum
Lleoliad: Coleg Caerdydd a’r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr yn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Bydd y rôl yn cynnwys asesu dysgwyr ar gymwysterau adeiladu hyd at lefel 3. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi’i (l)leoli ar ein Campws Canol Dinas ond bydd disgwyl iddo/iddi fynd i gampysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu nifer o ddysgwyr ac am eu dilyniant, i gael cyflawni’r dangosyddion perfformiad allweddol penodol a fydd yn cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro eu dilyniant ac ennill y cymhwyster er mwyn cwrdd â gofynion y contract.
Ymhlith y cyfrifoldebau eraill bydd:
Sicrhau cydymffurfiad â gofynion y contract ym mhob rhan o siwrnai’r dysgwyr a fydd yn cynnwys, ond a fydd heb fod yn gyfyngedig i archwilio a monitro iechyd a diogelwch, profion WEST, a gwaith papur cofrestru dysgwyr a dysgwyr yn gadael, ac ar adolygu rhaglenni.
Cyflawni IQA (Sicrwydd Ansawdd Mewnol) yn unol â gofynion y Corff Dyfarnu a chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Bydd y dyletswyddau hyn yn cynnwys mynd i gyfarfodydd sicrhau ansawdd.
Ymgysylltu â chyflogwyr pan fyddwch ar ymweliadau i gael hyrwyddo dysgu yn y gweithle. Ymdrin ag awgrymiadau ac ymholiadau mewn modd amserol.
Datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol y dysgwyr.
Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Rhaid gwneud cais drwy ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn y Saesneg. Os byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os byddwch am gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn Gymraeg.
09/02/2024 yw’r dyddiad olaf i dderbyn ffurflenni cais cyflawn am 12:00
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 029 2025 0311 neu recruitment@cavc.ac.uk
Bydd cael swydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn amodol ar wiriad cyfredol dilys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd rhaid boddhau’r amod hwn yn rhan o’ch contract cyn dechrau gweithio. Mae gweithdrefn y Coleg ynglyn ag Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Er mwyn i chi fod yn gallu gweithio yma, rhaid i ni dderbyn geirda oddi wrth ddau ganolwr, gan gynnwys un oddi wrth eich cyflogwr presennol neu eich cyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’r rhain pan wneir y penodiad.
Mae’r swydd yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd rhaid boddhau’r amodau hyn yn rhan o’ch contract cyn dechrau gweithio.
Rydym yn ymrwymedig i recriwtio a chadw pobl ag anabledd ac rydym yn gyflogwr sydd â hyder mewn pobl ag anabledd.

Refer code: 2631660. Vacancy Filler - The previous day - 2024-01-27 05:43

Vacancy Filler

Caerdydd a'r Fro, CF10 5FE

Share jobs with friends