Company

National TrustSee more

addressAddressNewport, Wales
type Form of workPart time
salary Salary£18,580 per annum
CategoryAdvertising & Marketing

Job description

You’ll support the External Affairs team and colleagues across Wales to build strong external relationships with elected representatives and key stakeholders, support our policy and advocacy work, and provide External Affairs advice and support to our property and consultancy teams.

Crynodeb 

Byddwch yn cefnogi’r tîm Materion Allanol a chydweithwyr ledled Cymru i feithrin perthnasau allanol cryf gyda chynrychiolwyr etholedig a rhanddeiliaid allweddol, cefnogi ein gwaith polisi ac adfocatiaeth, a darparu cyngor a chefnogaeth materion allanol i’n timau eiddo ac ymgynghoriaeth. 

The National Trust Consultancy is the home to specialists in every field of our work. A national consultancy, where resources are shared across disciplines and boundaries, it’s proving to be a great repository of skills, talent and experience. The diversity and quality of expertise within the Consultancy will enable our properties and places to benefit from an extraordinary range of creative and innovative thinking, as well as deep expertise in all matters relating to our twin purpose of caring for the nation’s heritage and landscapes, and making these accessible to all. 

As this role covers the whole of Wales, your contractual place of work will be the nearest National Trust consultancy office to your home. Our hybrid working policy means you can balance office and home working with site visits and meetings at other National Trust places. We’ll talk about this in more detail at interview, but you should expect to be at a National Trust site for 40–60% of your working week.

Sut beth yw gweithio yma? 

Mae Gwasanaeth Ymgynghori'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gartref i arbenigwyr ym mhob maes o'n gwaith. Gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol, lle rhennir adnoddau ar draws disgyblaethau a ffiniau, sy'n profi i fod yn gronfa werth chweil o sgiliau, doniau a phrofiadau. Bydd amrywiaeth ac ansawdd yr arbenigedd o fewn y Gwasanaeth Ymgynghori yn galluogi ein heiddo a lleoedd i elwa o ystod ryfeddol o feddylfryd creadigol ac arloesol, yn ogystal ag arbenigedd dwfn ym mhob mater yn ymwneud â'n diben dwbl o ofalu am dreftadaeth a thirweddau'r genedl, a gwneud y rhain yn hygyrch i bawb. 

Gan fod y rôl hon yn golygu gweithio dros Gymru gyfan, bydd eich gweithle cytundebol yn y swyddfa ymgynghori Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd agosaf at eich cartref. Golyga ein polisi gweithio hybrid eich bod yn gallu cydbwyso gweithio yn y swyddfa gyda gweithio gartref, gydag ymweliadau a chyfarfodydd safle mewn llefydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol eraill. Byddwn yn siarad am hyn mewn mwy o fanylder yn y cyfweliad, ond gallech ddisgwyl bod ar safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol am 40-60% o’ch wythnos waith. 

As part of the External Affairs team in Wales you'll be instrumental in shaping how National Trust Cymru is seen in Wales and the wider world. You'll support the External Affairs Consultants for North and South Wales in building relationships with politicians, key stakeholders, and decision makers in Wales, support with coordination of site visits, stakeholder meetings and communications, and monitoring of our engagement.  

You'll have the opportunity to engage with National Trust Cymru’s campaign and advocacy work by providing support in the development of policy briefings and helping with the organisation and planning of events.  

You'll be highly organised and structured in your work – managing and recording our relationships with key politicians, stakeholders and decision-makers as well as developing effective processes to share knowledge and information from the Trust to the external world. 

An experienced communicator, in writing and in person, you'll be an effective champion for the National Trust and our cause, representing the Trust to external audiences.  

You'll contribute to internal processes including providing an External Affairs newsletter internally and externally and develop good relationships across the Trust, including with colleagues based in Northern Ireland and in the Whole Trust External Affairs Team. 

Beth fyddwch chi’n ei wneud? 

Fel rhan o'r tîm Materion Allanol yng Nghymru, byddwch yn allweddol yn llywio sut mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael ei gweld yng Nghymru a ledled y byd. Byddwch yn cefnogi’r Ymgynghorwyr Materion Allanol ar gyfer Gogledd a De Cymru i feithrin perthnasau â gwleidyddion, rhanddeiliaid allweddol a gwneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru, yn cefnogi gyda chydlynu ymweliadau safle a chyfathrebiadau rhanddeiliaid, gyda chydlyniad cyfarfodydd rhanddeiliaid, a monitro ein hymgysylltiad.  

Bydd gennych y cyfle i ymgysylltu ag ymgyrch a gwaith adfocatiaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru drwy ddarparu cymorth i ddatblygu briffiau polisi a helpu gyda threfnu a chynllunio digwyddiadau.  

Byddwch yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd hynod drefnus a strwythuredig – yn rheoli ac yn cofnodi ein cysylltiadau â gwleidyddion allweddol, rhanddeiliaid ac unigolion sy'n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu prosesau effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth gyda'r byd allanol. 

Byddwch yn gyfathrebwr profiadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'n hachos, gan gynrychioli'r Ymddiriedolaeth i gynulleidfaoedd allanol.  

Byddwch yn cyfrannu at brosesau mewnol gan gynnwys darparu cylchlythyr materion allanol yn fewnol ac yn allanol, a datblygu pac yn datblygu cysylltiad da ledled yr Ymddiriedaeth, gan gynnwys gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Thîm Materion Allanol yr Ymddiriedolaeth Gyfan. 

We’re looking for a highly motivated External Affairs professional with an understanding and experience of the political and stakeholder landscape in Wales. 

The ability to communicate in Welsh is beneficial for this role. Further support will be provided for continued development of Welsh language skills. Please complete the attached Welsh Language Competency Assessment and upload this alongside your CV.

In your application please provide details of how you meet the following minimum criteria: 

  • Excellent verbal and written communication and interpersonal skills 
  • Understanding of the stakeholder landscape in Wales 
  • Knowledge and experience of the political landscape in Wales  
  • Experience in external partnership working, policy or advocacy 
  • Excellent organisational skills and ability to work at pace and prioritise workloads 
  • Experience of preparing and producing presentations and communications materials  
  • Ability to build strong collaborative working relationships with internal and external stakeholders 

Am bwy ydym yn chwilio

Rydym yn chwilio am unigolyn materion allanol proffesiynol hynod frwdfrydig gyda dealltwriaeth a phrofiad o’r dirwedd wleidyddol a rhanddeiliaid yng Nghymru.   

Mae'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon. Darperir cefnogaeth bellach ar gyfer datblygu sgiliau iaith Gymraeg yn barhaus. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV. 

Yn eich cais, rhowch fanylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a sgiliau rhyngbersonol 
  • Dealltwriaeth am y dirwedd randdeiliaid yng Nghymru. 
  • Gwybodaeth a phrofiad o dirwedd wleidyddol Cymru  
  • Profiad o weithio yn y maes eirioli, polisi neu weithio mewn partneriaeth allanol 
  • Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio'n gyflym a blaenoriaethu 
  • Profiad o baratoi cyflwyniadau a deunyddiau cyfathrebu a/neu eirioli  
  • Y gallu i feithrin cysylltiadau cydweithredol cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol 
Refer code: 3376523. National Trust - The previous day - 2024-05-21 15:45

National Trust

Newport, Wales

Share jobs with friends