Amdanom ni
Ynglŷn â'r rôl
Amdanat ti
Gwybodaeth Ychwanegol
Job Reference: EHS00499
Darparu gwasanaeth glanhau ar gyfer cleientiaid glanhau adeiladau
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog: Grade 1, PCG 2 £11.59 ya
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener.
Amser tymor 10 awr/wythnos (38 wythnos).
Egwyl 8 awr/wythnos (5 wythnos).
Prif Waith: St Nicholas
Disgrifiad:
- Cynorthwyo i roi gwasanaeth glanhau effeithiol i gleientiaid glanhau adeiladau
- Cymryd lle glanhawyr eraill yn ystod cyfnodau o wyliau, salwch, diffyg staff ac absenoldebau eraill.
- Cynorthwyo’r goruchwylydd / goruchwylydd safle yn achlysurol gyda hyfforddi staff glanhau.
- Ymgymryd â’r holl agweddau ar dasgau glanhau fel; glanhau carpedi a glanhau stêm, glanhau yn unol â'r fanyleb safle, glanhau ar ôl gwaith adeiladu, glanhau yn ystod egwyliau a glanhau arall na nodir fel arfer yn y fanyleb safle.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch::
- Profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant glanhau neu mewn disgyblaeth/amgylchedd arall cysylltiedig â glanhau.
- Dealltwriaeth sylfaenol o'r amryw dasgau glanhau y mae angen eu gwneud i ddarparu Gwasanaeth Glanhau effeithlon ac effeithiol.
- Sgiliau llafar da a gallu trafod ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Parod i weithio oriau afreolaidd.
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy’n briodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Lynne Armstrong 02920 673120
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00499