This ad is bilingual, please scroll down for English text / Mae’r hysbys yma yn ddwyieithog sgroliwch i lawr am y Saesneg
Mae’r rhaglen Interniaeth Dyfodol Morol yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr sydd â diddordeb
mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol ddysgu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o
sectorau morol, gan helpu fel sail i lunio cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Cyllidir y Rhaglen gan Stad y Goron ac mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chaiff ei gweithredu mewn partneriaeth â Stad y Goron, M-SParc a Menter Môn. Mae pob sefydliad partner yn darparu cyfleoedd i’r intern ddatblygu sgiliau yn y gwaith mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys cyngor cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu â chymunedau. Drwy’r rhaglen bydd yr intern yn cael cynnig profiad a golwg gytbwys ar yrfa yn yr amgylchedd morol a sut gall gwahanol sectorau gydweithio. Bydd yr intern yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn canolbwyntio ar bwnc sy'n berthnasol i bob partner. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu deunyddiau allgymorth addysgol rhithwir a gwaith maes ecolegol.
Rydym yn chwilio am ddau intern a all adeiladu ar eu sgiliau a'u gwybodaeth bresennol i wneud y gorau o'r profiad unigryw yma. Dylai’r ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o faterion morol cyfredol a rhywfaint o brofiad o weithio neu wirfoddoli yn y sector morol. Yn bwysicaf oll, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n angerddol ac yn frwdfrydig am yr amgylchedd morol ac sy'n barod i ddysgu, yn drefnus, yn llawn hunangymhelliant, ac yn gallu gweithio'n dda o fewn tîm, o bell ac wyneb yn wyneb.
Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, gyda’r gallu i weithio o fewn tîm dwyieithog ac yn ymrwymo i ddysgu’r iaith os yn ddysgwr. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ac yn faen prawf pwysig.
Sylwch, gan fod y swyddi hyn wedi’u heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, bydd angen archwiliad Datgeliad lefel uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus, ynghyd â thrwydded yrru gyfredol.
Mae disgrifiad llawn ynghyd a ffurflen gais ar gael o www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/jobs
Dyddiad cau: 26fed o Ebrill 2024 am 12 Hanner Dydd
Cyfweliadau i'w cynnal: 15fed/16fed o Fai 2024
The Marine Futures North Wales Internship programme offers a unique opportunity for candidates interested in a career in the marine environment to gain skills, knowledge and experience across a variety of marine sectors; helping to inform and shape future career opportunities.
The Programme is funded by The Crown Estate, project managed by North Wales Wildlife Trust and run in partnership with The Crown Estate, M-SParc and Menter Môn. Each partner organisation provides opportunities for the intern to develop on-the-job skills in specialist areas including, marine conservation advice, sustainable fisheries, renewable energy development, marine policy, and community engagement. Through the programme the intern will be offered experience and a balanced view on a career in the marine environment and how different sectors can work together. The intern will get the chance to undertake an independent research project focussing on a topic that is relevant to all partners. Additional activities will include stakeholder engagement, creating virtual educational outreach materials and ecological fieldwork.
We are looking for two interns who can build on their existing skills and knowledge to make the most of this unique experience. Applicants should have a good understanding of current marine issues and some experience working or volunteering within the marine sector. Most importantly, we are looking for candidates who are passionate and enthusiastic about the marine environment have a willingness to learn, are organised, self-motivated, and can work well within a team both remotely and in person.
It is essential that the successful candidates have an understanding of Welsh culture and language with an ability to work within a bilingual team and a willingness to learn. The ability to speak Welsh is preferred and this is a weighted criterion.
Please note that, as these posts are exempt from the Rehabilitation of Offenders Act 1974, a satisfactory enhanced level Disclosure and Barring Service (DBS) Disclosure check will be required for the successful candidates along with a current driver’s licence.
A full Internship description and application form is available from www.northwaleswildlifetrust.org.uk/jobs
Closing date: 26th April 2024 at 12noon
Interviews to be held: 15th/16th of May 2024