Company

WebrecruitSee more

addressAddressPembroke Dock SA72
type Form of work- Fixed term contract
salary Salary£23,500 - £23,893 a year
CategoryAdministrative

Job description

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parcmon Cynorthwyol Tymhorol Castellmartin
Rhan Amser (15 awr yr wythnos) – Cyfnod Penodol: 13/10/2024
Mae Maes Tanio Castellmartin nid yn unig yn un o feysydd hyfforddi milwrol pwysicaf y DU lle mae tanio byw yn digwydd yn ddyddiol, ond hefyd mae’n gartref i rai o nodweddion arfordirol mwyaf gwerthfawr y Parc Cenedlaethol a’r bywyd gwyllt mwyaf prin. Mae miloedd o ymwelwyr yn ymweld â’r Maes bob blwyddyn sy’n dod i fwynhau’r clogwyni epig a’r golygfeydd ysgubol, y bywyd gwyllt ysblennydd a’r hanes a’r archaeoleg unigryw.
Mae cyfle newydd cyffrous gan y Parc i ymuno â ni fel Parcmon Tymhorol Castellmartin. Mae’r Gwasanaeth Parcmyn Castellmartin yn bartneriaeth unigryw rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rôl y Parcmon Cynorthwyol yw ein helpu i sicrhau nad yw’r bywyd gwyllt arbennig ar y Meysydd megis adar sy’n nythu ar glogwyni a morloi, yn cael eu haflonyddu gan weithgareddau hamdden.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda dringwyr clogwyni ac ymwelwyr eraill a pherchnogion milwrol y Maes Tanio, i wneud yn siwr bod trefniadau mynediad yn rhedeg yn esmwyth, y bywyd gwyllt yn cael ei fonitro’n effeithiol, a bod ymwelwyr yn cael diwrnod gwych. Fel rhan o'r rôl, byddwch yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod y mannau mynediad cyhoeddus i'r Meysydd Tanio yn rhydd o sbwriel ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, tra hefyd yn cyfrannu at gynnal a chadw byrddau gwybodaeth ac arwyddion. Byddwch hefyd yn cofnodi niferoedd yr ymwelwyr a gweithgareddau ar y Meysydd ac yn cynnal arolygon cadwraeth.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
  • Gwybodaeth am yr amgylchedd arfordirol.
  • Sgiliau adnabod bywyd gwyllt.
  • Profiad mewn rôl debyg yn yr awyr agored, cefn gwlad neu rôl amgylcheddol.
  • Profiad o ddelio â'r cyhoedd/ cwsmeriaid.
  • Trwydded yrru lawn, ddilys, y DU.
  • Cymhwyster ôl-16 mewn pwnc perthnasol, neu brofiad gwaith perthnasol digonol.
  • Y gallu i ddilyn gofynion iechyd a diogelwch.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth. Sylwer bod y rôl hon yn rôl rhan amser ar y penwythnosau yn unig. Bydd diwrnodau ychwanegol o bryd i'w gilydd i gyflenwi ar wyliau banc ac ar gyfer hyfforddiant hanfodol.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, y flwyddyn, (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun hael pensiwn llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiau Cau: 04 Ebrill 2024
Cyfweliadau i’w cynnal ddydd Mercher 17 Ebrill 2024.
Refer code: 3134918. Webrecruit - The previous day - 2024-04-04 04:50

Webrecruit

Pembroke Dock SA72
Jobs feed

Welding Inspector

Psi Global Specialist Recruitment

Bolton, East Lothian

Finance BI developer

Jumar Solutions

London, England

Locum band 6 Cardiologist

Supply Care Solutions

Croydon, Greater London

£28 - £30/annum depending on shift

Lifting & Handling Engineer

Millbank Holdings

Knutsford, Cheshire

Paint Specialist

Mde Consultants Ltd

Birmingham, West Midlands

Ventilation Engineer

Rise Technical Recruitment

Leeds, West Yorkshire

£35,000 - £40,000/annum Van, Training, Overtime, Bonus

Hardware Engineer

Matchtech

Hampshire, England

£50 - £70/hour

Finite Element Analysis Engineers

Awe

Reading, Berkshire

£34,000 - £65,000/annum Pension, life insurance

SHEQ Manager

Irwin & Colton

Liverpool, Merseyside

£50,000/annum Excellent Benefits

Framework Director

Lanesra Technical Recruitment

Glasgow, Scotland

£110,000 - £120,000/annum DOE, bonus, car and excellent benefits

Share jobs with friends