Company

National TrustSee more

addressAddressNewport, Wales
type Form of workPart time
salary Salary£43,407
CategoryAdministrative

Job description

Summary

This is an exciting opportunity to work with outstanding National Trust properties across S Wales, providing support and expertise in all aspects of preventive and remedial conservation of collections and interiors, applying your technical and consultancy skills to enable us to achieve sustainable standards of conservation.

You'll work with designated properties across the region to address ongoing conservation needs while supporting a range of projects.

Your contractual location will be one of our hubs in Tredegar or Llandeilo, with the opportunity to work from properties and from home some of the time, and we will consider flexible working patterns. Travel across the region is required.

22.5 hrs/wk; £26,000 starting salary. We are currently undertaking our pay review process and it is likely that this salary will be increased from 1st April 2024. 

Interviews will take place on-line on Tuesday 26 March.

Crynodeb

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gydag eiddo eithriadol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ne Cymru. Byddwch yn darparu cefnogaeth ac arbenigedd ym mhob agwedd ar gadwraeth ataliol ac adferol o gasgliadau a thu mewn i eiddo, gan gymhwyso eich sgiliau technegol ac ymgynghori i'n galluogi i gyrraedd safonau cadwraeth cynaliadwy.

Byddwch yn gweithio gydag eiddo dynodedig yn y rhanbarth i fynd i'r afael ag anghenion cadwraeth parhaus, wrth gefnogi amrywiaeth o brosiectau.

Eich lleoliad cytundebol fydd un o’n hybiau yn Nhredegar neu Landeilo, gyda’r cyfle i weithio o eiddo ac o gartref rhywfaint o’r amser. Byddwn yn ystyried patrymau gweithio hyblyg. Mae angen teithio o fewn y rhanbarth.

22.5 awr yr wythnos; £26,000 cyflog cychwynnol. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cwblhau ein proses adolygu cyflogau ac mae’n debygol y bydd y cyflog hwn yn cynyddu ar 1 Ebrill 2024.

Cynhelir cyfweliadau ar-lein ar Dydd Mawrth 26 Mawrth.

What it's like to work here

You’ll be a member of the Trust's regional and national team of consultants, a network of conservators and specialists working closely with property teams to share skills and experience across departments and boundaries, offering outstanding advice and support. You’ll work alongside another conservator in Wales, leading for the value of the historic environment in providing for a sustainable future for everyone.

Sut brofiad yw gweithio yma?

Byddwch yn aelod o dîm rhanbarthol a chenedlaethol o ymgynghorwyr yr Ymddiriedolaeth, rhwydwaith o gadwraethwyr ac arbenigwyr. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau eiddo i rannu sgiliau a phrofiad ar draws adrannau a ffiniau, gan gynnig cyngor a chymorth rhagorol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chadwraethwr arall yng Nghymru, gan arwain ar werth yr amgylchedd hanesyddol o ran darparu dyfodol cynaliadwy i bawb.

What you'll be doing

Reporting to a Consultancy Manager in Wales, you’ll use your conservation expertise to meet the needs of properties and the region, working closely with property colleagues to contribute to, and support, the delivery of experiences. You’ll also be involved in the development & delivery of property business and conservation plans

You'll champion the work of the Trust in preventive and remedial conservation, develop and contribute to remedial preventive conservation research and analysis, taking an interest in innovation and how to protect our collections from emerging environmental threats and working more sustainably. You'll procure and supervise external services and expertise as required.

Developing and maintaining good working relationships with a variety of stakeholders, you'll work collaboratively, sharing your expertise, and developing and delivering training.

Please also read the full role profile and additional information, attached to this advert.

Beth fyddwch chi’n ei wneud:

Yn atebol i’r Rheolwr Ymgynghoriaeth yng Nghymru, byddwch yn defnyddio eich arbenigedd cadwraeth i ddiwallu anghenion eiddo a’r rhanbarth. Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr eiddo i gyfrannu at brofiadau a chefnogi’r gwaith o’u darparu. Byddwch hefyd yn ymwneud â datblygu a chyflawni cynlluniau busnes eiddo a chadwraeth.

Byddwch yn hyrwyddo gwaith yr Ymddiriedolaeth ym maes cadwraeth ataliol ac adferol, yn datblygu ac yn cyfrannu at ymchwil a dadansoddi cadwraeth ataliol adferol. Bydd gennych ddiddordeb mewn arloesi, gan gynnwys sut i ddiogelu ein casgliadau rhag bygythiadau amgylcheddol, a’n helpu i weithio'n fwy cynaliadwy. Byddwch yn caffael ac yn goruchwylio gwasanaethau ac arbenigedd allanol yn ôl yr angen.

Gan ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da gydag amrywiaeth o randdeiliaid, byddwch yn gweithio ar y cyd, yn rhannu eich arbenigedd, ac yn datblygu a chyflwyno hyfforddiant.

Darllenwch y proffil rôl yn llawn, a gwybodaeth ychwanegol sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn yn ogystal.

Who we are looking for

We’d love to hear from you if this sounds like you:

  • ICON accredited Conservator with significant experience
  • able to apply creative thinking, problem solving and human-centred practice to conservation
  • confident using document management systems and processes to monitor programmes
  • experience with researching, commissioning and brokering remedial conservation work
  • a skilled communicator who can build strong relationships within diverse teams, both internally and externally
  • a flexible thinker and problem-solver, skilled at negotiating and building productive networks, and confident in using your expertise to influence decisions
  • proactive and organised, with experience of managing projects, and a talent for multi-tasking and getting things done, strongly focused on detail, quality, cost and time
  • lead for inclusion and always think ‘everyone welcome’

Am bwy rydyn ni'n chwilio:

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych chi’n diwallu’r anghenion canlynol:

  • Cadwraethwr achrededig ICON gyda phrofiad sylweddol
  • Y gallu i feddwl yn greadigol, datrys problemau a defnyddio ymarfer dynol-ganolog i gadwraeth
  • Yn hyderus wrth ddefnyddio systemau a phrosesau rheoli dogfennau i fonitro rhaglenni
  • Profiad o ymchwilio, comisiynu a broceru gwaith cadwraeth adferol
  • Y gallu i gyfathrebu’n fedrus a meithrin perthnasoedd cryf o fewn timau amrywiol, yn fewnol ac yn allanol
  • Y gallu i feddwl a datrys problemau yn hyblyg, yn fedrus wrth drafod ac adeiladu rhwydweithiau cynhyrchiol, ac yn hyderus wrth ddefnyddio'ch arbenigedd i ddylanwadu ar benderfyniadau
  • Y gallu i fod yn rhagweithiol a threfnus, gyda phrofiad o reoli prosiectau, a dawn i gyflawni sawl tasg ar y tro gan ganolbwyntio'n gryf ar fanylion, ansawdd, cost ac amser
  • Y gallu i arwain cynhwysiant a chynnal meddylfryd croesawgar i bawb bob amser.
Refer code: 2884874. National Trust - The previous day - 2024-02-27 18:10

National Trust

Newport, Wales

Share jobs with friends