Company

Yolk RecruitmentSee more

addressAddressCardiff, Wales
type Form of workPermanent
salary SalaryUp to £31490.00 per annum + Remote working
CategoryEngineering

Job description

Swyddog Comisiynu ac Ansawdd

Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o'r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

Y Cyfle

Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Swyddog Comisiynu ac Ansawdd a fydd yn gwneud cyfraniad allweddol at genhadaeth Adnodd trwy sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu comisiynu a'u caffael yn effeithiol a bod modd sicrhau eu hansawdd. Byddwch yn cyfrannu at gynllunio gweithredol ac yn sicrhau bod adnoddau amserol, dwyieithog ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu.

Y Rôl

Gan weithio'n ddeinamig mewn tîm traws-swyddogaethol, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu strategaethau a chynlluniau ar gyfer comisiynu, sicrhau ansawdd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a fydd yn sicrhau bod adnoddau dwyieithog, arloesol, hygyrch a chynhwysol o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n amserol i ddiwallu anghenion pob dysgwr 3 i 19 oed.

Byddwch yn cefnogi ac yn arwain ar y gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau a gweithgareddau comisiynu a sicrhau ansawdd, gan sicrhau cyfranogiad priodol ac effeithiol gan randdeiliaid. Byddwch yn defnyddio'ch menter i ganolbwyntio ar ganlyniadau, cefnogi gwelliant parhaus ac ysgogi rhagoriaeth trwy:

  • Comisiynu Adnoddau a Sicrhau Ansawdd
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Rheoli Risg, Dadansoddi Data ac Adrodd
  • Diwallu anghenion dysgwyr y presennol a'r dyfodol

Gofynion

Bydd gan y Swyddog Comisiynu ac Ansawdd llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:

  • Mae angen o leiaf Cymraeg ar lefel ganolradd ar gyfer y rôl hon.
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfatebol.
  • Profiad o gomisiynu, caffael neu rolau cysylltiedig.
  • Y gallu i hysbysu, dylanwadu a chydlynu partneriaid a rhanddeiliaid.
  • Yn gyfarwydd â datblygu adnoddau addysgol a sicrhau ansawdd.
  • Profiad o reoli prosiectau a phrosesau sicrhau ansawdd.
  • Angerdd am addysg ac ymrwymiad i ddwyieithrwydd.
  • Chwaraewr tîm da sy'n gallu gweld a gwneud yr hyn sydd ei angen i gyflawni canlyniadau cyffredinol cadarnhaol.

Buddion

Bydd y Swyddog Comisiynu ac Ansawdd llwyddiannus yn derbyn:

  • Cyflog cychwynnol o £31,490
  • Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

Dyddiad Cau: 10yb Llun 8ed Gorffennaf 2024

Dyddiad Cyfweliad ac Asesu: Iau 18ed Gorffennaf 2024

Lleoliad Cyfweliad ac Asesu: Yolk Recruitment, The Shell, Anchor Court, Keen Road, Caerdydd, CF24 5JW

Yolk Recruitment yw partner recriwtio egsgliwsif Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.

Refer code: 3438575. Yolk Recruitment - The previous day - 2024-06-24 23:35

Yolk Recruitment

Cardiff, Wales

Share jobs with friends