Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.
Mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) yn cefnogi oedolion agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref ac yn gysylltiedig â'u cymunedau, drwy wybodaeth, cyngor a chymorth wedi'u teilwra – gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o'r tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ar Wasanaethau Byw'n Annibynnol i aelodau'r cyhoedd, gan gysylltu â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyfeirio at asiantaethau eraill.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog a phrofiad o weithio ym maes Gofal Cymdeithasol, Iechyd, 3ydd sector neu gynghori. Bydd gennych hanes llwyddiannus o reoli adnoddau’n effeithiol a sicrhau canlyniadau ardderchog i gwsmeriaid.
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu ymateb yn sensitif i amgylchiadau unigolion yn ogystal â meddu ar agwedd gadarnhaol.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn un dros dro tan 31 Mawrth 2025.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Maggie Friend, Rheolwr Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf Ysbyty ar 029 2184 5050.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03770