Company

Cardiff CouncilSee more

addressAddressCardiff, Wales
salary Salary£25,979 - £29,777 a year
CategoryConstruction & Property

Job description

Am Y Gwasanaeth


Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

Gall Caerdydd gynnig cyfle i weithio ar draws ein Cartrefi Plant amrywiol gan roi'r cyfle i chi ennill a thyfu eich profiad yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ar draws ein Cartrefi Plant yng Nghaerdydd.

Gallwn gynnig oriau gwaith hyblyg, p'un a ydych yn chwilio am waith rhan amser neu lawn amser a allai ffitio o amgylch eich ffordd o fyw bersonol.

Mae sicrhau bod y staff cywir yn cael eu paru â'r plentyn neu'r person ifanc cywir wrth wraidd y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Byddai gennych un gweithle sefydlog ond o bryd i'w gilydd efallai y bydd eich sgiliau a'ch dull gweithredu’n fwy addas ar gyfer un o'n cartrefi eraill. Mae ein cartrefi i gyd yn agos at ei gilydd ac ni fyddai hyn yn cynnwys unrhyw deithio afresymol.


Am Y Swydd


Rydym yn edrych i recriwtio i swyddi llawn amser a rhan amser.

Mae'n cymryd math arbennig o berson i neilltuo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion ar draws ein cartrefi yng Nghaerdydd. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano.

Rydym yn chwilio am unigolion i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael lefel ac ansawdd uchel o gymorth unigol drwy gydol eu hamser yn ein cartrefi.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, i feithrin perthnasau priodol ac i gael hwyl, gan fod yno bob cam o’u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

Byddwch yn effro ar ddyletswydd ar bob adeg drwy’r nos i fonitro ac ymateb i anghenion unigol pobl ifanc a gofynion/cyfarwyddyd Rheolwyr ar alw.


Beth Rydym Ei Eisiau Gennych


Fel Swyddog Effro’r Nos, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd, mae arnom angen aelodau o staff sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

Yn rhan o’r rôl byddwch yn cynnig cymorth Effro’r Nos, gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau amgylchedd diogel, cynnes a chefnogol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r tîm i weithredu a rheoli’r trefniadau gofal nos rheolaidd i bobl ifanc mewn modd sensitif.

Byddwch yn effro ar ddyletswydd ar bob adeg drwy’r nos i fonitro ac ymateb i anghenion unigol pobl ifanc a gofynion/cyfarwyddyd Rheolwyr ar alw. Bydd angen arnoch y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag ystod o wasanaethau y tu allan i oriau yn ôl y gofyn.

Bydd gofyn i chi drosglwyddo cyfrifoldebau ar ddechrau a diwedd shifft, gan gyflawni unrhyw dasgau yn ôl y gofyn a rhoi gwybod am unrhyw faterion neu ddigwyddiadau y mae’n angenrheidiol i’r staff sy’n dechrau shifft fod yn ymwybodol ohonynt.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn:

  • Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
  • Help a chefnogaeth i gwblhau:
  • Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru)
  • Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 2 (Craidd)
  • Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (Ymarfer)
  • Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
  • Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
  • Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
  • Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

Gwybodaeth Ychwanegol


Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol ynghylch y cyfleoedd hyn cysylltwch â ni ar RecriwtiwchFi@caerdydd.gov.uk

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swyddi hyn yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3@caerdydd.gov.uk am drafodaeth.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

  • Canllaw ar Wneud Cais
  • Ymgeisio am swyddi gyda ni
  • Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Siarter Cyflogeion
  • Recriwtio Cyn-Droseddwyr
  • Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02728
Refer code: 2587264. Cardiff Council - The previous day - 2024-01-22 17:22

Cardiff Council

Cardiff, Wales

Share jobs with friends