Mae'r Tîm Asesu Arbenigol Therapi Galwedigaethol a Namau ar y Synhwyrau wedi'u lleoli yn y Barri ac yn cynnal asesiadau yng nghartrefi pobl ledled Bro Morgannwg. Mae'r tîm yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Swyddogion Gofal Cymdeithasol a Swyddog Adsefydlu ar gyfer pobl â Nam ar eu Golwg. Swyddogaeth y tîm yw edrych ar gyfarpar ac addasiadau priodol i alluogi person i barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn ei gartref. Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau eraill yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu i gynllunio gofal pobl pan fo angen.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Tâl: Gradd 8 PCG 26 – 30 £34,834 - £38,223
Oriau Gwaith – 37
Patrwm Gweithio: Dydd Llun – Dydd Gwener
Prif Weithle: Canolfan Tŷ Jenner
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am lwyth achosion pobl sydd angen asesiad yn eu cartrefi er mwyn cynnal eu diogelwch a chynyddu annibyniaeth. Caiff hyn ei fodloni drwy ddarparu cyfarpar ac addasiadau addas a dod o hyd i'r cyllid priodol ar gyfer y rhain.
Amdanat ti
Bydd angen
- Profiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol
- Lleoliad gwaith maes llwyddiannus os yn cael ei benodi fel blwyddyn gyntaf yn y swydd
- Gallu amlwg i gydgysylltu ag asiantaethau a disgyblaethau eraill
- Gallu i adnabod a derbyn ffiniau proffesiynol a chyrchu arweiniad pan fo angen
- Gwybodaeth ac ymrwymiad i’r cysyniad o’r Model Cymdeithasol o Anabledd
Dealltwriaeth sylfaenol o’r fframwaith ddeddfwriaethol sy’n caniatáu i’r adran wasanaethau cymdeithasol ddarparu gwasanaethau. Gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith salwch ac anabledd Y gallu i weithio dan bwysau.
- Y gallu i weithio yn annibynnol a hyblyg
- Y gallu i weithio fel aelod o’r tîm
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Llythrennedd cyfrifiadurol neu barodrwydd i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol er mwyn cwblhau tasgau angenrheidiol yn gweithle
- Addysg gyffredinol dda
- Gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol
Cofrestriad cyfredol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal Parodrwydd i gael ei arolygu
Gwybodaeth Ychwanegol
Oes angen Gwiriad GDG: Manwl
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Joanne Thomas 01446 725100
Gweler y disgrifiad swydd/ manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach
Job Reference: SS00765