Cynorthwyydd Tymhorol Meysydd Parcio
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) – Cyfnod Penodol: 31/09/2024
Ydy’r syniad o weithio yn yr awyr agored mewn rhai o leoliadau harddaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio i chi? Mae cyfle newydd gan y Parc i ymuno â’n Tîm Datgarboneiddio fel Cynorthwyydd Meysydd Parcio.
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 40 o feysydd parcio a mannau parcio ac yn codi tâl am barcio mewn 14 ohonynt. Bydd y rôl yn cynnwys gyrru rhwng sawl safle ar draws yr Awdurdod a bod yn gyfrifol am gasglu arian o beiriannau Talu ac Arddangos. Hefyd byddwch yn didoli ac yn cysoni’r arian a gasglwyd, yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar y peiriannau Talu ac Arddangos ynghyd â chynnal a chadw sylfaenol ar y Meysydd Parcio.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
- Trwydded yrru lawn, ddilys, y DU.
- Profiad o drafod arian parod a gallu da o drin rhifau ar gyfer cadw cofnodion.
- Profiad o weithio mewn rôl sy'n ymdrin â'r cyhoedd wyneb yn wyneb.
- Gallu mecanyddol a phrofiad o wneud gwaith cynnal a chadw ar beiriannau Talu ac Arddangos.
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a bod yn ddibynadwy ac yn ddidwyll.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £22,366 i £22,737 y flwyddyn (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiau Cau: 01 Ebrill 2024