Mae gan yr ein cleient gyfle newydd i Gweithiwr Achos ymuno â'u tîm yn Nhondu, Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfeirnod y Swydd: CW1
Lleoliad: Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £55,150 y.f.
Oriau: 35 yr wythnos
Math o Swydd: Parhaol, llawn amser
Am y Cleient:
Mae'r ein cleient yn cynrychioli dros 120,000 o academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr/cyfarwyddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysg oedolion a sefydliadau hyfforddi ledled y DU.
Mae gennym hefyd aelodau yn y sector preifat, er enghraifft mewn asiantaethau hyfforddi preifat ac ysgolion iaith, yn ogystal ag aelodau sy'n gweithio'n llawrydd. Mae myfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu ym maes addysg ôl-ysgol hefyd yn perthyn y cleient
Gweithiwr Achos – Y Rôl:
- Mae'r y cleient yn chwilio am Weithiwr Achos ar gyfer eu tîm yng Nghymru i roi cyngor i aelodau'r y cleient a'u cynrychioli wrth ymdrin â materion gwaith achos personol. Mae'r rôl gyffrous hon wedi ei lleoli yn ein swyddfa yn Nhondu, Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n atebol i Swyddog Cymru.
Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- Rhoi cyngor i'r aelodau gyda phroblemau neu anghydfodau sy'n codi o'u cyflogaeth
- Cynrychioli'r aelodau mewn gwrandawiadau cwyno a disgyblu mewnol
- Cynrychioli a/neu gynorthwyo aelodau mewn perthynas â chyrff allanol megis ACAS, EWC a thribiwnlysoedd cyflogaeth
- Cynnal cydberthnasoedd effeithiol gyda swyddogion y canghennau gan gwblhau gwaith achos aelodau a rhoi cyngor a chymorth iddynt, ac ar adegau, hyfforddiant.
- Rheoli llwyth gwaith eich hunain, a datblygu gwaith achos, o dan oruchwyliaeth Swyddog Cymru
Gweithiwr Achos– Chi:
- Profiad o weithio mewn amgylchedd tebyg a/neu ddealltwriaeth o weithio i undeb llafur neu sefydliad nid er elw arall
- Addysg hyd at lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg)
- Sgiliau Cyfathrebu Ardderchog
- Tair blynedd neu fwy o brofiad o ymdrin â materion gwaith achos personol
- Gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth a chydraddoldeb y DU
- Profiad o eiriolaeth a chynrychiolaeth
- Yn gyfarwydd â'r practis a'r weithdrefn mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth
Gweithiwr Achos– Buddiannau:
Mae y cleient yn cynnig nifer o fuddiannau ariannol a lles i gefnogi ei gyflogeion. Gweler yr hysbyseb ar ein gwefan am fanylion pellach.
Gweithiwr Achos – Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chyfleoedd Cyfartal:
Mae angen eich cymorth arnom i sicrhau bod ein cyflogeion yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, felly rydym yn croesawu ceisiadau gan gymunedau dan anfantais yn arbennig. Hyd yn oed os na chewch eich dewis, byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech gwblhau'r data amrywiaeth a chynhwysiant pan fyddwch yn gwneud cais am y rôl hon, oherwydd gallwn sicrhau ein bod yn annog cymysgedd amrywiol o ymgeiswyr i wneud cais. Diolch yn fawr iawn.
Rydym yn hapus i gael ceisiadau mewn fformatau amgen gan ymgeiswyr a allai gael anhawster llenwi ein ffurflen safonol, oherwydd anabledd. Gweler yr hysbyseb ar ein gwefan am fanylion pellach.
Mae y cleient yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys â chymwysterau addas heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.
Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw Dydd Iau 4 Ebrill 2024 am 10am. Bydd y cyfweliadau wedyn yn cael eu cynnal Ddydd Iau 25 Ebrill 2024.
I gyflwyno'ch cais ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i fod yn Gweithiwr Achos, ticiwch ‘Apply’ nawr!