Mae'r Tîm Cefn Gwlad o fewn yr Adran Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys nifer o dimau sy’n gofalu am y ddau Barc Gwlad, yr Arfordir Treftadaeth, Hawliau Tramwy, y Dirwedd ac Ecoleg ac yn cynnal Partneriaeth Natur y Fro a thimau Adfer y Ddawan.
Yr amcanion yw:
- Diogelu, gwella a rheoli cefn gwlad Bro Morgannwg yn effeithiol
- Darparu ar gyfer a hyrwyddo mynediad priodol i gefn gwlad ac arfordir, hamdden ac ymwybyddiaeth
- Darparu gwasanaethau arbenigol o ansawdd uchel ar gyfer dylunio a gweithredu cynlluniau tirwedd
- Denu cymorth grant, nawdd a gwaith partneriaeth i wella gweithgareddau
Mae'r adran Ecoleg yn cefnogi ac yn cynorthwyo gyda Phartneriaeth Natur y Fro, cynghori Rheoli Datblygu ynghylch ceisiadau cynllunio, cynorthwyo a chynghori holl adrannau eraill y cyngor ar fioamrywiaeth a'r gyfraith, cynghori ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir, datblygu a chyflawni prosiectau, mae'n gyfrifol am y Blaengynllun Bioamrywiaeth ac yn ymgymryd â chamau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur y Fro
Ynglŷn â'r rôl
Manylion cyflog: Gradd 7: £30,296 - £33,945
37 awr yr wythnos gyda gwaith cyfyngedig gyda'r nos ac ar benwythnosau
Contract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025 ond gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid allanol.
Ariennir y swydd hon drwy Gronfa Gymunedol Galluoedd Arfordirol Llywodraeth Cymru
Prif weithle: ar draws y Fro a gweithio hybrid yn Swyddfa’r Dociau, y Barri.
Bydd deiliad y swydd yn:
- Sefydlu Fforwm Arfordirol y Fro ymhellach fel y prif rwydwaith lle gall cymunedau, busnesau a sefydliadau sydd â diddordeb yn yr arfordir a thu hwnt rannu gwybodaeth a datblygu mentrau i gyflawni ar draws pynciau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd .
- Datblygu, ar y cyd, Prosiect Adfer Natur Arfordirol y Fro a fyddai'n darparu Rhaglen Adfer Natur y Fro ar hyd yr arfordir cyfan.
- Canfod cyfleoedd cyllido a phartneriaid posibl a chanfod gofynion cyllidwyr er mwyn cefnogi cais ar gyfer Prosiect Adfer Natur Arfordirol y Fro.
- Sicrhau bod Cynllun Adfer Natur y Fro yn cael ei integreiddio i amgylcheddau arfordirol a morol ac yn adlewyrchu'r materion bioamrywiaeth sy'n berthnasol i'r cynefinoedd hynny a'u rhywogaethau.
- Sicrhau a rheoli gwasanaethau ymgynghori sy'n ofynnol fel rhan o dDatblygu Prosiectau, i gryfhau CGAN y Fro a chefnogi uchelgeisiau'r Fforwm Arfordirol.
- Darparu adroddiadau cyson ac amserol ar gynnydd i’r Grŵp Llywio a'r Fforwm Arfordirol.
- Bod yn gyfrifol am gyllidebau sydd ynghlwm wrth y rhaglen waith a, chyda chymorth Swyddogion Cyllid yn CBM, dod â hawliadau chwarterol ynghyd i'w cyflwyno i WCVO. I ddelio ag unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chyllidebau a hawliadau.
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd PNL Cymru, cyfarfodydd Tîm Cefn Gwlad ac unrhyw gyfarfodydd ledled Cymru mewn perthynas â gweithgarwch arfordirol a ariennir drwy ffrwd ariannu Cymunedau Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydweithredol.
- Gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau arfordirol.
- Profiad o dDatblygu Prosiectau a cheisiadau ariannu.
- Profiad o weithio gydag ymgynghorwyr a sicrhau darpariaeth.
- Gallu cyfathrebu a darllen
- Sgiliau TG yn enwedig Excel.
- Brwdfrydig a gallu gweithio’n dda mewn tîm, siriol wrth ymwneud â’r cyhoedd.
- Gallu gweithio’n hyblyg a heb oruchwyliaeth.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o gynulleidfaoedd.
- Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a datblygu gwybodaeth am fioamrywiaeth.
- Trafod i gael cyfranogiad eraill mewn prosiect sy’n cael ei sbarduno gan gadwraeth.
- Gallu gyrru ledled y Fro.
Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Colin Cheesman, Ecolegydd Sirol
E-bost – crcheesman@valeofglamorgan.gov.uk
Job Reference: PLA00030