Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Bywa Swyddog Cefnogi
Lleoliad: Caerdydd / Gweithio gartref yn bennaf
Cyflog £33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartref
Math o swyddi: Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol (Tan 31 Mawrth2026)
Mae Un Llais Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Bywa Swyddog CefnogiProsiect Argyfwng Costau Byw i ymuno â’u tîm.
Y Rôl
Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw
Darparu cymorth i’r Prosiect Argyfwng Costau Byw, a chyfrannu at gyflawni ei amcanion a’r cynllun prosiect yn llwyddiannus. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neu brofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect a chydlynu prosiect. Bydd angen hefyd ichi wybod am dechnegau a dulliau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG a chyflwyno rhagorol yn ogystal â phrofiad o weithio’n effeithiol gyda budd-ddeiliaid.
Swyddog CefnogiProsiect Argyfwng Costau Byw
Darparu cymorth i’r Rheolydd Prosiect a’r Swyddog Prosiect, fydd yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithdai a chyfarfodydd, cadw cofnodion, gwneud gwaith ymchwil, cydlynu cyfathrebu a gweinyddu pecynnau TG y tîm. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neu brofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol fudd-ddeiliaid a sefydliadau. Dylai fod gennych wybodaeth fras am dechnegau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG rhagorol.
Bydd y tîm prosiect yn gyfrifol am gyflawni cynllun prosiect er mwyn rhoi gwell cymorth i aelwydydd incwm isel a phobl fregus mewn cymunedau ledled Cymru.
Bydd deiliaid y ddwy swydd yn gweithio gartref ac mae lwfans gweithio gartref yn daladwy.
Dyddiad Cau - Ganol nos ar 22 Medi 2023
I Wneud Cais
Os ydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas ac os hoffech weithio i Un Llais Cymru, dylech fynd ymlaen trwy’r ddolen ganlynol i gael eich ail-gyfeirio at eu gwefan er mwyn ichi gwblhau eich cais.
Rhaid ichi lenwi ac e-bostio eich ffurflen gais at ein Hymgynghorydd Adnoddau Dynol Cysylltiol erbyn y dyddiad cau ac mae eu cyfeiriad e-bost i’w weld ar y ddolen.
Un Llais Cymru yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, ac mae’n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau a nifer fawr o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo’r sector.