SWYDDOG DATBLYGU GWASANAETHAU A PHARTNERIAID (ADDYSG AC IECHYD).
ADRAN A CHYFLOG
Adran - Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid
Cyflog – £38,163.17 - £40,881.34 (Gradd 7)
Oriau Gwaith – 3 diwrnod (22.2 awr) yr wythnos (rhoddir ystyriaeth i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
Daliadaeth – Cyfnod Penodol (15 mis)
PWY YDYM NI
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Bydd y rôl hon hefyd yn cynnwys teithio rheolaidd ledled Cymru.
I weld sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideo ar ein tudalen gyrfaoedd.
SUT BYDDWCH YN CYFRANNU
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol i chwarae rhan allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth Chwaraeon a Datblygu Gwasanaethau. Gan weithio ar y cyd ar draws Chwaraeon Cymru byddwch yn rhan o dîm sy’n gyfrifol ar y cyd am Gynllunio a Datblygu Gwasanaethau, a Datblygu Partneriaethau: Wedi’i arwain gan ddealltwriaeth, arloesedd ac anghenion partneriaid, mae’r tîm yn gyfrifol ar y cyd am ddatblygu meysydd polisi a blaenoriaeth allweddol Chwaraeon Cymru, ac am hyrwyddo’r achos dros chwaraeon.
GYDA PHWY FYDDWCH CHI'N GWEITHIO
Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr strategol a phenderfynwyr allweddol o ystod amrywiol o sefydliadau sydd â diddordeb mewn arwain a darparu cyfleoedd chwaraeon, hamdden ac addysg. Mae'r rhain yn cynnwys Consortia Addysg, Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Cenedlaethol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Ymddiriedolaethau Hamdden, Sefydliadau Trydydd Sector a llawer mwy. Byddwch hefyd yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol allanol.
Yn fewnol byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws cyfarwyddiaethau.
BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â gwybodaeth am y Systemau Chwaraeon ac Addysg yng Nghymru, sydd â phrofiad o feithrin perthnasoedd a rheoli partneriaethau, a’r gallu i ddylanwadu ar randdeiliaid allweddol.
Rydym yn chwilio am unigolyn uchel ei gymhelliant sy'n canolbwyntio ar atebion sy'n gallu arwain ac ysbrydoli eraill.
Os oes gennych chi'r presenoldeb a'r cymeriad i weithio mewn tîm sy'n perfformio'n dda yn ogystal â'r angerdd a'r awydd i lwyddo, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gweler y disgrifiad swydd am restr lawn o ofynion hanfodol a dymunol yr ymgeiswyr.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.
Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.
Os hoffech drafod y rôl ymhellach, anfonwch e-bost at.
Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch.
DYDDIAD CAU
9:00am 3 Ebrill 2024
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
Wythnos yn dechrau 15 Ebrill
SERVICE AND PARTNER (EDUCATION & HEALTH) DEVELOPMENT OFFICER
DEPARTMENT AND SALARY
Department – Service and Partner Development
Salary – £38,163.17 - £40,881.34 (Grade 7)
Working Hours – 3 days (22.2 hours) per week (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)
Tenure – Fixed Term (15 months)
WHO WE ARE
Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. We are the main adviser on sport to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds. We aim to not only improve the level of sport participation at grassroots level, but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.
Equality, Diversity & Inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. Further information on this can be found in our Equality, Diversity & Inclusion Statement. We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.
Language skills (bilingualism & multilingualism) are desirable characteristics across all roles within Sport Wales. We are passionate about promoting the use of Welsh language and, as part of our development programme, give everyone the opportunity to learn Welsh if they wish to do so, offering learning programmes from beginner right through to fluent.
We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.
This role will also involve regular travel throughout Wales.
To find out what it’s like to work with us at Sport Wales, please watch the video on our careers page.
HOW YOU’LL CONTRIBUTE
We are looking for an experienced individual to play a key role within the Sport Intelligence and Service Development Directorate. Working collaboratively across Sport Wales, you will be part of a team collectively responsible for Service Design and Development, and Partnership Development: Led by insight, innovation and Partner needs, the team is collectively responsible for driving forward Sport Wales key policy and priority areas, and for furthering the case for sport.
WHO YOU’LL WORK WITH
You will be working with strategic leaders and key decision makers from a diverse range of organisations with an interest in leading and delivering sport, recreation, and education opportunities. These include Education Consortia, Local Authorities, National Organisations, National Governing Bodies, Leisure Trusts, Third Sector Organisations and many more. You will also work with external specialist consultants.
Internally, you will work collaboratively with colleagues across directorates.
WHAT YOU’LL NEED
We are looking for candidates who have knowledge of the Sport and Education Systems in Wales, experience in building relationships and managing partnerships and the ability to influence key stakeholders.
We are looking for a highly motivated and solution-focused individual who is able to lead and inspire others. If you have the presence and personality to work in a high performing team as well as the passion and drive to succeed, then we would love to hear from you.
Please see the job description for a full list of essential and desirable requirements of candidates.
WHAT HAPPENS NEXT
You should read the full job description.
You can apply for this role now.
If you’d like to discuss the role further, then please email us.
For more information on the process of applying, please email us.
CLOSING DATE
9:00am 3rd April 2024
PROVISIONAL INTERVIEW DATE
Week commencing 15th April